- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Fel gyda phob stori dda, mae angen i chi fod yno o`r cychwyn. Dyna pam rydyn ni`n hoffi brandio!
Mae brand yn fwy nag arwydd neu nôd; mae’n ymwneud â’r ffordd mae pobl yn gweld eich sefydliad, y ffordd mae’r dderbynfa’n ateb galwadau ffôn a’r coffi rydych chi’n ei gynnig i ymwelwyr. Brandio sefydliad yn llwyddiannus yw’r her fwyaf i unrhyw asiantaeth greadigol. Rydym yn cyfuno ein creadigrwydd ni â phersonoliaeth eich sefydliad i greu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Rydym am gael ein hysbrydoli gan eich brwdfrydedd, eich egni a’ch teimladau tuag at gynhyrchion a gwasanaethau eich sefydliad, ac mae bod yno o’r cychwyn yn ein galluogi ni i ddatblygu eich brand wrth i chi dyfu. Rydym yn cyflawni hyn trwy wrando’n astud... a gwrando a o ie, a thrwy wneud rhywfaint o waith dylunio.
Rydym o’r farn bod pob cwmni’n wahanol ac, oherwydd hyn, rydym yn cynhyrchu ymatebion pwrpasol ar gyfer ein holl brosiectau. Gall y broses frandio fod yn brofiad brawychus, felly rydym wastad yn edrych ar agweddau allweddol mewn perthynas â chreu brand llwyddiannus. Ein nod yw cynyddu agweddau allweddol eich busnes, sef cyfraddau cadw staff, codi ymwybyddiaeth o’ch sefydliad (ymhlith y cyhoedd neu fusnesau) a chynyddu cyfraddau gwerthu/defnydd.
Ar ôl casglu gwybodaeth a data, byddwn yn gweithio gyda chi i greu syniadau ynglŷn â sut y gall eich sefydliad gystadlu yn erbyn eich cystadleuwyr. Yna, byddwn yn gweithio i greu brand sy’n gweddu i’r sefydliad a’ch cwsmeriaid, gan roi hyder i chi ehangu’ch busnes.
Dewiswch o blith yr astudiaethau achos ar y chwith i weld rhai o’r prosiectau rydym wedi bod yn gweithio arnynt yn ddiweddar.