- English
- 029 2048 7941
- Cysylltwch â ni
Mae gennym ni hawl i fod yn unigolion; yn ein hymddangosiad, ble rydyn ni`n byw a hyd yn oed o ran sut rydym yn cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau.
Mae pobl yn gallu gweld a phrynu newyddion, lluniau, cerddoriaeth a fideo bob dydd, a hyd yn oed gwneud eu siopa bwyd wythnosol, yn ddigidol. Trwy setiau teledu a radio, technoleg ffôn symudol a hysbysebion , mae yna gymaint o ddulliau rhyngweithio’n bodoli fel ei bod yn anodd gwybod beth yw’r datblygiadau diweddaraf.
Trwy gyflawni gwaith ymchwil a defnyddio’r technolegau diweddaraf, gallwn roi cyngor i chi ar ba sianeli digidol i’w targedu a sut y dylid cyflwyno’ch gwybodaeth ddigidol er mwyn sicrhau’r canlyniadau mwyaf effeithiol.
Yn aml, presenoldeb ar-lein fydd pwynt cyswllt cyntaf eich sefydliad ac, mewn rhai achosion, gall fod yn fwy darbwyllol nag unrhyw gerdyn busnes neu hysbyseb yn y wasg. Bydd gwaith dylunio a chynllunio rhyngweithiol da, ynghyd â’r defnydd effeithiol o dechnoleg, yn helpu i dywys darpar gwsmeriaid tuag at y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar draws dyfeisiau lluosog.
Dewiswch o blith yr astudiaethau achos digidol ar y chwith i weld rhai o’r prosiectau rydym wedi bod yn gweithio arnynt yn ddiweddar.